Ieuan Wyn Jones i sefyll i lawr ar unwaith Sbarduno is-etholiad - TopicsExpress



          

Ieuan Wyn Jones i sefyll i lawr ar unwaith Sbarduno is-etholiad Ynys Môn Mae Ieuan Wyn Jones wedi rhoi gwybod i Lywydd y Cynulliad heddiw ei fod yn sefyll i lawr o’r Cynulliad ar unwaith, gan sbarduno isetholiad am sedd Ynys Môn. Cyfarfu Mr Jones â’r Llywydd heddiw i’w hysbysu am ei benderfyniad, a mynegi ei ddymuniad i gynnal isetholiad yn gynnar, ar y 1af o Awst. Bydd hyn yn caniatáu i Aelod Cynulliad newydd gael ei ethol cyn dechrau tymor newydd y Cynulliad. Ar ddydd Mawrth, cyhoeddodd y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog ei ddymuniad i sefyll i lawr o’r Cynulliad er mwyn cymryd yr her o arwain Parc Gwyddoniaeth newydd y Fenai. Dywedodd Ieuan Wyn Jones: “Rwy’n ddiolchgar iawn an y negeseuon o gefnogaeth yr wyf wedi derbyn am fy rôl newydd. Rydw i wedi ymrwymo’n llywr i weithio’n galed i sicrhau fod y prosiect yn cyrraedd ei lawn botensial i economi y gogledd-orllewin. Gan fy mod yn dechrau fy rôl newydd yn yr haf, ac yn dilyn trafodaethau gyda phobl yn lleol ac yn y Cynulliad, teimlaf mai isetholiad cynnar fyddai orau. “Am y rhesymau hyn, rydw i wedi rhoi gwybod i’r Llywydd heddiw fy mod i’n bwriadu sefyll i lawr o’r Cynulliad ar unwaith. Bydd hyn yn caniatáu ethol AC newydd yn gynnar, ac yn gadael i’r AC hwnnw ddod i arfer â’r swydd dros wyliau’r Haf er mwyn bod yn barod ar gyfer tymor newydd prysur y Cynulliad ym mis Medi. “Hoffwn ddiolch i bawb am bob cefnogaeth wythnos yma, ac am eu dymuniadau da wrth i mi gymryd fy rôl newydd. Mae fy mhenderfyniad wedi ei yrru gan fy nymuniad i gymryd rôl flaenllaw wrth wella economi y gogledd-orllewin, a gallaf nawr ddechrau ar y gwaith hynny cyn gynted â phosib.”
Posted on: Thu, 20 Jun 2013 12:00:02 +0000

Trending Topics



Recently Viewed Topics




© 2015