Mae’n ben set gwirioneddol i geisio sichrau gwaith cadwraeth - TopicsExpress



          

Mae’n ben set gwirioneddol i geisio sichrau gwaith cadwraeth fydd yn diogelu’r crair unigryw yma - ceufad o Orllewin Affrica sydd bellach yma yng Ngogledd Orllewin Cymru. Dyma’r ddalen ar gyfer rhoi roddion ar-lein: gofundme/44tka4 , mae croeso hefyd i roddion drwy’r post. Mae’r canŵ yn enghraifft arbennig o ddiwylliant Affrica ym Mhrydain ac yn symbol o dreftadaeth forwrol. Unwaith y caiff ei warchod, bydd y canŵ hynod, y stori sy’n perthyn iddo, a’r hyn y mae’n ei gynrychioli yn sicr o ysbrydoli a swyno ymwelwyr. Am bob rhodd o £25 – byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r amgueddfa. Cewch eich tywys o gwmpas a thraddodir darlith ar hanes y canŵ. Fin nos bydd noswaith o gerddoriaeth fyw o Gymru a Gorllewin Affrica i’ch diddori.
Posted on: Mon, 16 Sep 2013 20:01:35 +0000

Trending Topics



Recently Viewed Topics




© 2015