Ble ddiawl ma dechre siarad am un mor fowr i mi, Byth mwy ni fydd - TopicsExpress



          

Ble ddiawl ma dechre siarad am un mor fowr i mi, Byth mwy ni fydd yn eistedd, flan tan yn gewn i ni ! Fel sawl un dewr oi blaen hi, y daith, rhaid gwneud ei hun, A hyn a wnaeth yn unig heb gymmar na chwmni dyn. Er byr yr amser cawsant, ac angau daeth a lois, Mi wn deur nerth a gafodd or cariad parodd oes. Tywysodd ni ir Ysgol Sul, yn amal llwyr ein tyn, In dysgu shwt i rhodio, ar lwybr llythrug Dyn. Gorymdaith ar Ddydd Calan o ddrws i ddrws yn llon, I ganu gydan gilydd Yn llawen ysgafn fron Ac yna deur Gymanfa, a pregeth, am, dim suit A minen mynd i Jabes, mewn jeans ir merched ciwt. Y pwnc a ddaeth yn hwyrach, a stryglan nath fan hyn, I gal fi eistedd yn y car i deithio dros y bryn. Ni chafodd broblem cofiwch chi i demptio neb ar drip, Ac o Borthcawl i Aberystwyth daeth pob un am dip. Yr hyn a ddysgodd i ni gyd wrth ddechrau yn y byd hwn Oedd sefyll yn set fowr a dweud, mae Am bob dim diolchwn ! O Steddfod Mowr Brynberian, i lwyfannau dros y wlad, dilynodd llawer plentyn, fel help yw Mam ai Tad. Ond balchder mwyaf iddi, oedd Triawd Ffynnonwen, Iddi hi, dim Expert miwsic Y gorau dan y Nen.😀 Diddori a wnaeth yn y Pethe, o Dduw i Wlad a Dyn, A llanwn fuan wnaeth pob sied, wrth iddi fynd yn hyn. Fe losgodd flocs dros Gymru, credwch fi, ma hwn yn faith, A Elfyn bach yn hollti nes fod en gamp ar gwaith Agorodd hi ei Thy i bawb, i helpur elusenne, A rownd a rownd ant hwy, gan orfod wotchoi penne Am Gawl roedd dim yw faeddu, yn yr, holl ardal hon, Ar Pice wedi codi, sawl punt i Gancer Bron. Fe safodd unwaith dros ein hiaith, mewn Whist yng Nglwb Golf Hwlfordd, A bygwth cerdded mas a phawb os dim Cymraeg a gafodd. Rwyn cofio am ddou blentyn, yn ei gwawdio, ai Llwy Bren, Ac un yn taflu at y llall, ai thorri dros ei ben ! Wel cymaint oedd ei hofn, am ei Natur bitir arf, Mae bant ar ddou dai gilydd ai gladdu yn yr ardd. Dw in siwr eich bod fel ninnau, wedi ei diawlo llawer tro, Ond heb ei math, a Jennie, mor dlotach bydde Bro ! Addasaf nawr benillion, ei Thad, fy Hen Ddadcu, A sgwenodd yw rhueni, mewn galar fel i ni. Farwel ein hannwyl Mamgu Lodj, sydd bellach yn y bedd, Heb obaith mwy ir teulu bach, cal golwg ar ei gwedd. Ond gwnewn ein gorau credwch ni, rwyn siwr fod hyn yn faith, I geisio rhodio llwybraur nef, nes cyraedd pen ein taith. A phan ddawr alwad i ni ddod i orffwys yn y bedd, Rwyf yn hyderu cawn cyd gwrdd, ar frynniau hardd y Nef. Doris 1928 ~ 2015 Legend 😀
Posted on: Sun, 04 Jan 2015 09:13:41 +0000

Trending Topics



Recently Viewed Topics




© 2015