Confit Hwyaden Erbyn hyn mae ganddon ni Confit Hwyaden bendigedig - TopicsExpress



          

Confit Hwyaden Erbyn hyn mae ganddon ni Confit Hwyaden bendigedig yn y siop. Pryd wedi ei wneud hefo coes hwyaden. Mae’r arferiad hynafol o wneud ‘confit’ wedi ei ddatblygu yn Ffrainc ag yn ffordd o gyffeithio cigoedd bras fel hwyaden, gŵydd a porc. Nid yn unig bod y broses yma yn cyffeithio; mae hefyd yn dwyshau’r blas. Mi allwch chi weini confit hwyaden mewn sawl ffordd – gyda tatws sauté a llysiau, gyda tatws dauphinoise, triwch o hefo tatws pwtsh a marmalêd oren ag yna yn yr hâf gyda salad ffres. Os am ‘wrap’ Tseineaidd go iawn rhowch y cig mewn crempog Tseineaidd ag ychwanegwch saws hoisin iddo.
Posted on: Tue, 27 Aug 2013 09:41:34 +0000

Trending Topics



Recently Viewed Topics




© 2015