Does gan yr un genedl arall, hyd y gwn i, gyhoeddiad tebyg i - TopicsExpress



          

Does gan yr un genedl arall, hyd y gwn i, gyhoeddiad tebyg i Gyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol. Cyfrol sy’n cynnwys gwaith buddugol ynghyd â beirniadaethau’r cystadlaethau llenyddol. Mae’n gyfrol sy’n datgan faint o’r gloch yw hi yn y byd llenyddol Cymraeg o flwyddyn i flwyddyn. Da o beth fod Cymdeithas y Fforddolion, sy’n cyfarfod yng Nghrymych, bob amser yn agor eu tymor o gyfarfodydd gyda thrafodaeth agored ynghylch cynnwys y gyfrol. Eleni arweiniwyd y trafod yn ddeheuig gan y Prifardd Idris Reynolds o Frynhoffnant. Elwodd pawb o’i wybodaeth eang o’r byd llenyddol ac eisteddfodol. Ond, och ac aw, bychan oedd y nifer a oedd yn bresennol. A oedd y ffaith bod noson farddoniaeth Gŵyl Lyfrau Penfro yn Rhosygilwen gerllaw yn cyd-daro wedi denu rhai o’r ffyddloniaid? Cellar Bards, ynghyd â gwesteion, oedd yn darllen eu gwaith yno. Daeth y cyfarfod o’r Fforddolion i ben mewn da bryd i mi weld y rhan helaethaf o’r rhaglen deledu am Elton John yn cael ei anrhydeddu fel y cyntaf i dderbyn y Brits Icon Award’. ‘’Liberace’r byd roc,’ chwedl Bill Wyman sy’n dipyn o sgadenyn hallt ei hunan. Ac yna’r ffilm y gwariwyd £12 miliwn yn ei pharatoi yn 1973 sef Papillon. Steve McQueen a Dustin Hoffman, wrth gwrs, sy’n chwarae’r prif rannau yn yr epig. Ond braf oedd mynd i gysgu gan wybod fod gennym ninnau hefyd ein diwylliant perthnasol hyfyw, boed ddiwylliant lleiafrifol neu beidio. Mae’n em ymhlith holl emau mwclis diwylliannol y byd.
Posted on: Sat, 14 Sep 2013 11:08:16 +0000

Trending Topics



Recently Viewed Topics




© 2015