Yn yr etholiad cyffredinol – fydd yn digwydd mewn mater o - TopicsExpress



          

Yn yr etholiad cyffredinol – fydd yn digwydd mewn mater o wythnosau – gall Cymru siarad ag un llais. Gall Cymru ddweud “digon yw digon” o’r agenda austerity sydd wedi bod yn fethiant economaidd a chymdeithasol. Gall Cymru fynnu bod gwleidyddion yn rhoi trefn ar y llyfrau drwy greu swyddi, buddsoddi yn ein cymunedau ac ail-godi’r economi – nid ei chwalu. Gall Cymru sicrhau bod angen a gobaith ein gwlad ar yr agenda. Gall Cymru wneud hyn i gyd, ond dim ond os byddwn ni’n penderfynu, gyda’n gilydd, ein bod ni am fynnu cael ein clywed. Gall 2015 fod yn gyfnod newydd o obaith.
Posted on: Thu, 01 Jan 2015 08:12:47 +0000

Trending Topics



Recently Viewed Topics




© 2015