Rhoi prosiectau UE Ynys Môn yn y ffrâm Mae ffotograffwyr Ynys - TopicsExpress



          

Rhoi prosiectau UE Ynys Môn yn y ffrâm Mae ffotograffwyr Ynys Môn yn cael eu hannog i dynnu llun prosiectau Ewropeaidd yr ardal. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi lansio cystadleuaeth tynnu lluniau gyda gwerth €1,000 o offer camera a thrip i Frwsel i ddau ar gael. Mae cyfle i drigolion Ynys Môn gyflwyno lluniau o brosiectau sydd wedi eu hariannu gan yr UE fel rhan o ymgyrch gan y Comisiwn Ewropeaidd i dynnu sylw at y nifer o brosiectau a gaiff eu hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Rhwng 2007 a 2013, mae cyllid Ewropeaidd o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) a Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) o’r Rhaglen Cydgyfeiriant wedi helpu i gynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o £38.1 miliwn ym Môn. Mae digon o bethau yn yr ardal er mwyn i chi dynnu eu lluniau: • Mae Neuadd y Dref, Llangefni wedi cael ei drawsnewid i mewn i Ganolfan Fenter Gymdeithasol Ynys Môn a chanolbwynt cymunedol sydd yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd gan Menter Môn a Medrwn Môn, gyda’r llawr cyntaf ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol. Derbyniodd y Neuadd gyllid drwy brosiect Tair Tref Ynys Môn, sydd wedi ei gefnogi gan yr UE. Mae gwelliannau eraill trwy’r prosiect hwn yn cynnwys Marine Square a thraeth Newry yng Nghaergybi, Neuadd Tref Llangefni a Sgwâr Porth a Chanolfan Ymwelwyr Amlwch. • Mae’r prosiect Mona Antiqua, gyda’r nod o wella profiad ymwelwyr o safleoedd treftadaeth wedi ariannu’r ganolfan dreftadaeth newydd yn Deyrnas Gopr, Amlwch, sydd hefyd yr unig enwebiad o Gymru yng ngwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth papur newydd y Guardian. • Ailddatblygiad Pier Biwmares, wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa ERDF trwy’r prosiect Datblygiad Amgylchedd Arfordirol Ynys Môn sydd wedi rhoi hwb economaidd i’r ardal yn syth. Mae’r prosiect Amgylchedd Arfordirol Ynys Môn yn canolbwyntio ar gyfleoedd newydd ar gyfer twristiaeth, gweithgareddau hamdden, cyflogaeth a chymunedau lleol drwy wneud y mwyaf o arfordir Sir Fôn, ar y tir ac ar y môr. Am ragor o ysbrydoliaeth gall ffotograffwyr ymweld â sydd gyda nifer o enghreifftiau o brosiectau sydd wedi eu hariannu gan yr UE yn Ynys Môn a Gogledd Cymru. Mae’r gystadleuaeth, Ewrop yn fy Rhanbarth 2013, yn agored drwy’r dudalen Facebook facebook/EuropeanCommission. I gystadlu, y cwbl sydd raid i chi ei wneud yw tynnu llun o brosiect sydd wedi derbyn arian Ewropeaidd. Mae’n rhaid i’r llun gynnwys arwydd neu fwrdd gwybodaeth gyda baner UE arno. Ni ddylech gael trafferth dod o hyd i luniau posib, gan fod bob prosiect yn derbyn cyllid Ewropeaidd gyda bwrdd gwybodaeth neu arwydd yn cydnabod yr arian. Edrychwch allan am fflag yr Undeb Ewropeaidd a logo’r ddraig Llywodraeth Cymru. Byddwch mor greadigol ac rydych eisiau gyda gosodiad eich llun, cyn belled fod prawf cyllid Ewropeaidd yn medru cael eu gweld yn glir. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r cais yw 12:00pm ar 23 Awst 2013. Bydd pedwar enillydd yn cael eu dewis, un drwy bleidlais a tri gan feirniaid annibynnol o arbenigwyr ffotograffiaeth a chyfathrebu. Bydd pleidleisio yn cychwyn ar 26 Awst ac yn gorffen ar 6 Medi - bydd posib i unrhyw ddefnyddiwr Facebook bleidleisio, felly gwnewch yn siŵr fod eich ffrindiau a’ch teulu yn pleidleisio am eich llun! Caiff enillwyr eu cyhoeddi yng nghanol mis Medi 2013. Bydd yr enillydd yn derbyn offer camera gwerth €1,000 a thrip i ddau i Frwsel yn ystod Wythnos Ewropeaidd Rhanbarthau a Dinasoedd - Diwrnodau Agored (Hydref 7-10, 2013). Gellir cael y wybodaeth ddiweddaraf o’r gystadleuaeth ar Trydar: #EUmyRegion. Ychwanegodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Deilydd Portffolio Cyngor Ynys Môn ar gyfer Economi a Hamdden: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i rywun gymryd rhan a dysgu mwy am brosiectau a ariennir gan yr UE ar Ynys Môn. Mae arian yr UE yn hanfodol i’r economi leol, gan gefnogi amrywiaeth o brosiectau i hybu twf economaidd - creu swyddi, cefnogi busnesau lleol a gwella isadeiledd. Edrychaf ymlaen at weld rhai o’r ceisiadau o Ynys Môn o’r prosiectau gwych yma.” DIWEDD 16.8.2013 Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Euros Lake, Cambrensis Cyf, ar 01286 685 254 neu [email protected] ************************************************************************************* Putting Anglesey’s EU projects in the picture BUDDING photographers in Anglesey are being urged to snap the area’s European funded projects. The European Union has launched a photography competition with €1,000 worth of digital camera equipment and a trip for two to Brussels up for grabs. Anglesey residents are being asked to submit photographs of EU funded projects as part of a drive by the European Commission to put the public in the picture regarding how many projects are funded by the European Union. Between 2007 and 2013, European Funding from the European Regional Development Fund (ERDF) and European Social Fund (ESF) of the Convergence Programme has helped generate a total investment of £38.1 million in Anglesey. There’s plenty of projects out there just waiting for you to zoom in on: • Llangefni’s newly developed Town Hall, has been transformed into Anglesey’s Social Enterprise and Community hub, housing offices for Menter Môn and Medrwn Môn, with the ground floor available for community projects, received funding through the EU backed Anglesey Three Towns project. Other improvements through this project include Marine Square and Newry Beach in Holyhead, and the Amlwch Port Square and the Copper Bins visitor centre. • The Mona Antiqua Project with its aim of improving the quality and interpretation and the visitor experience of heritage sites has funded the Copper Kingdom heritage centre at Amlwch, which was also the only Welsh nomination in this year’s Guardian Museums and Heritage Awards. • The re-developed Beaumaris Pier part funded by ERDF through the Anglesey’s Coastal Environment Project which provided an instant economic boost to the area. The Anglesey Coastal Environment Project focuses on new opportunities for tourism, leisure activities, employment and local communities by maximising the spectacular Anglesey coastline, both onshore and offshore. For further inspiration photographers can visit anglesey.gov.uk/business/european-funding/highlighting-the-impact-of-european-funding-in-north-wales/120694.article which has a bank of videos showcasing EU funded projects across Anglesey and North Wales. The competition, Europe in my Region 2013, is open exclusively through its Facebook page facebook/EuropeanCommission. To enter, all you need to do is take a photo of a project receiving EU funding. It must have the plaque or billboard with funding information and the EU flag somewhere in the picture. Potential pictures shouldn’t be too hard to find because projects in receipt of European funds should have a plaque or billboard acknowledging the funding. Just look out for the European Union flag and the Welsh Government’s dragon logo. Be as creative as you like with the composition of your photo as long as the proof of European funding can be clearly seen. The deadline for submitting your entry is August 23, 2013, 12:00pm. Four winners will be selected, one by popular vote and three by an independent jury composed of photographers and communications specialists. Voting for the popular photo begins on 26 August and ends on 6 September – any Facebook user can vote for your photo, so make sure you enlist all your friends and family to vote for your pic! Winners will be announced by mid-September 2013. Each winner will receive digital camera equipment worth €1,000 and a trip for two to Brussels during the European Week of Regions and Cities – Open Days (October 7-10, 2013). Find the latest news about the photo competition on Twitter: #EUmyRegion. Councillor Aled Morris Jones, Anglesey Council’s Portfolio Holder for Economy and Leisure added: “This is an excellent opportunity for someone to get involved and learn more about EU funded projects on Anglesey. EU funds are vital to the local economy, supporting a range of projects to boost economic growth – creating jobs, supporting local businesses and improving infrastructure. I look forward to seeing some entries from Anglesey of these great projects.” ENDS 16.8.2013 For more information please contact Euros Lake, Cambrensis Communications, on 01286 685 254 or [email protected]
Posted on: Wed, 28 Aug 2013 09:57:11 +0000

Trending Topics



Recently Viewed Topics




© 2015