Wrecsam i gynnal Diwrnod Hwyl Cerddwn Ymlaen Gymru Bydd canol - TopicsExpress



          

Wrecsam i gynnal Diwrnod Hwyl Cerddwn Ymlaen Gymru Bydd canol tref Wrecsam yn cynnal Diwrnod Hwyl Cerddwn Ymlaen Gymru / Walk on Wales ar 28 Medi. Gwnaed cynlluniau i gynnal marchnad yng nghanol y dref â detholiad o stondinau cynnyrch a chrefftau a llawer o weithgareddau hwyliog, yn cynnwys cwrs rhwystrau chwythedig. Bydd cerddoriaeth fyw o’r bandstand ac i’r rhai â diddordeb mewn pethau milwrol bydd llu o gerbydau, gwisgoedd ac arfau wedi eu dadgomisiynu. Gwneir casgliadau yn ystod y dydd tuag at Apêl Afghanistan y Gwarchodlu Cymreig a’r elusen Combat Stress. Dylai unrhyw un â diddordeb mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn anfon neges e-bost at [email protected] neu ffonio 01978 292536, os gwelwch yn dda. Fe fedrwch chi gynorthwyo i godi arian trwy ymuno â’r timau o gerddwyr ar unrhyw ran o’r daith. Edrychwch ar wefan Walk on Wales, walkonwales.org. Mae hon yn daith gerdded elusennol a fydd yn cwmpasu’r cyfan o Lwybr yr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir o hyd, ag 11 tîm sy’n cynnwys cyn filwyr ac aelodau presennol y Gwarchodlu Cymreig, a fydd yn cerdded fel rhan o daith gyfnewid rhwng 25 Awst tan 2 Tachwedd. Nod y daith gerdded noddedig ydy codi £1miliwn i gefnogi aelodau’r Gwarchodlu Cymreig a’u teuluoedd y mae gwasanaethu yn y lluoedd arfog wedi effeithio ar eu bywydau. Bydd y daith Walk on Wales yn cael ei lansio yng Nghaerdydd ar 25 Awst pan fydd Tîm 1 yn cerdded o Eglwys Gadeiriol Caerdydd i Gas-gwent, yn cario’r ffon arian seremonïol, sy’n nodi enwau 50 o’r Gwarchodlu Cymreig sydd wedi marw mewn brwydau ers yr Ail Ryfel Byd. O Gas-gwent bydd tîm beicio yn cario’r ffon werthfawr i Gae Rasio Caer, lle bydd Tîm 2 yn cychwyn ar y daith arfordirol faith ar 29 Awst.
Posted on: Fri, 13 Sep 2013 14:56:10 +0000

Recently Viewed Topics




© 2015